Mae enwau’r 200 a mwy o filwyr Prydain sydd wedi marw wrth ymladd yn Affganistan ers 2001 wedi cael eu darllen allan heddiw mewn protest yn erbyn y rhyfel.

Fe wnaeth ymgyrchwyr o bob rhan o Brydain ymgynnull mewn seremoni arbennig ‘Naming of the Dead’ ger y Senotaff yn Whitehall yn Llundain heddiw.

Amcan y seremoni oedd coffáu’r milwyr sydd wedi colli’u bywydau yn Affganistan.

Yn ogystal ag enwau 200 o filwyr, cafodd enwau 200 o ddinasyddion Affganistan a oedd wedi’u lladd o ganlyniad i’r rhyfel eu darllen yn ogystal.

Dywedodd Tony Benn, llywydd y grŵp ‘Stop the War Coalition’ ei fod eisiau cofio’r milwyr hyn yn y seremoni ond hefyd ei fod yn edrych ymlaen ac yn ystyried ffyrdd o ddiweddu’r rhyfel.

“Mae’n rhaid i bob rhyfel ddarfod drwy siarad â rhywun . Mae’n rhaid i ni siarad â’r Taliban, does dim modd ennill y rhyfel hwn,” meddai.

Roedd Tony Benn yn galw ar y Llywodraeth i dynnu byddinoedd Prydeinig allan o’r wlad.

“Mae’n amser gadael yn awr,” meddai gan ychwanegu fod “gormod o filwyr wedi marw’n barod.”

‘Arch ar ôl arch ar ôl arch’

Mae 204 o filwyr wedi cael eu lladd yn y rhyfel hyd yn hyn.

“Mae Afghanistan eisiau i ni adael ac rydw i o’r farn bod mwyafrif y milwyr Prydeinig eisiau gadael hefyd,” meddai Tony Benn.

Llun: Tony Benn o flaen o Senotaff yn Whitehall heddiw (Fiona Hanson/PA Newswire)

Ychwanegodd Ghada Razucki, 47, ymgyrchwr o Lundain:

“Ar hyn o bryd mae’n fater o – arch ar ôl arch ar ôl arch – mae’n rhaid i ni adael,” dywedodd.