Mae dogfennau sydd newydd gael eu cyhoeddi trwy reolau rhyddid gwybodaeth yn dangos fod y cwmni datblygu economaidd Cymad yn wynebu gorfod talu mwy na chwarter miliwn o grantiau yn ôl.

Ar hyn o bryd, mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru mewn trafodaethau ynglŷn â’r taliadau gyda derbynwyr ar ôl i’r cwmni fethdalu ddechrau’r mis.

Bellach, mae dau adroddiad wedi eu rhoi ar gael gan Lywodraeth y Cynulliad – un ym mis Mawrth 2007 yn tynnu sylw at wendidau mawr o fewn y cwmni; y llall o fis Chwefror eleni yn dangos nad oedd fawr ddim wedi newid.

Wrth gyhoeddi’r dogfennau, mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau fod anfoneb gwerth £260,000 wedi ei chyflwyno i Cymad i hawlio’r grantiau’n ôl. Er hynny, roedd Adran Gyllid y Llywodraeth ar un adeg wedi argymell fod eisiau ail-hawlio mwy na £300,000.

Ymhlith casgliadau’r ddau adroddiad, roedd beirniadaeth fawr o systemau’r cwmni:

• Roedd y dulliau o reoli’r grantiau yn wan yn 2007 ac eto yn 2009.

• Doedd y cwmni ddim yn gallu dangos tystiolaeth o’u holl wario.

• Roedden nhw wedi torri’r rheolau, a’u haddewid eu hunain, trwy ddefnyddio arian o gynllun Ewropeaidd i dalu am rai o weithgareddau eraill y cwmni.

• Doedd addewidion i wella a newid a wnaed yn 2007 ddim wedi eu cadw.

Roedd yr adroddiadau’n ymwneud â chwech o brosiectau Ewropeaidd o dan y rhaglen Amcan 1 a gwerth tua £2.1 miliwn o grantiau i gyd.

Atal taliadau

Fe gafodd taliadau i Cymad eu hatal yn 2006 ac fe ymddiswyddodd y Prif Weithredwr, Elwyn Vaughan, yn 2008. Cyn hynny, roedd wedi ei gael yn euog o dwyll tros gyfrifon ond, am nad oedd wedi elwa’n bersonol, fe gafodd gadw ei swydd.

Bythefnos yn ôl, fe ddywedodd Arthur Parry, un o aelodau Bwrdd Rheoli Cymad, eu bod wedi methu â thalu biliau i Gyllid y Wlad oherwydd y rhewi ar eu grantiau.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd wedi cynnal arolwg o Cymad ac mae disgwyl eu hadroddiad cyn bo hir.

Llun o wefan y cwmni