Mae pensiynwraig a gafodd ei tharo ar ei phen gan binafal wrth siopa yn dwyn achos yn erbyn yr archfarchnad.

Cafodd Mary Raimo, 76, ei tharo i’r llawr gan y ffrwyth a ddisgynnodd oddi ar silff archfarchnad Tesco yn Dundee, ym mis Gorffennaf y llynedd.

Yn ôl pob tebyg, symudodd cwsmer arall y pinafal oddi ar y silff uchaf cyn iddo daro Mary Raimo ar gefn ei phen.
Cafodd wybod yn fuan wedyn ei bod wedi dioddef cyfergyd (concussion).

Mae Mary Raimo’n parhau i gwyno am boenau yn ei gwddf a’i phen.

Mae’r bensiynwraig yn dadlau fod y ffrwyth wedi’i bentyrru’n “flêr” ac “esgeulus” ar silffoedd Tesco.

Mae wedi datgan y bydd yn ceisio iawndal o rai miloedd.

Yn eu hymateb, dywedodd llefarydd ar ran Tesco fod diogelwch cwsmeriaid yn “bwysig iawn” iddynt a’u bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Dywedodd y cwmni fod gweddill y mater yn nwylo’r tîm yswiriant ac na allent ddatgan dim mwy am y mater.