Wrth i’r chwilio barhau am long nwyddau y credir iddi gael ei herwgipio gan fôrladron, mae tasglu ryngwladol yn ffyddiog y ceir hyd iddi’n fuan.

Diflannodd y llong Arctic Sea, gyda chriw o 15 o Rwsiaid ar ei bwrdd, dros bythefnos yn ôl, a’r dyb yw fod hyn ar ôl iddi hwylio trwy’r culfor rhwng Lloegr a Ffrainc.

Heddiw, dywedodd Dmitry Rogozin, llysgennad Rwsia i Nato, fod y dasg o chwilio am y llong yn mynd yn ei blaen a bod rheswm ganddynt i obeithio y byddant yn llwyddo.

Mae swm o £1.5 miliwn doler wedi cael ei hawlio gan y cwmni o’r Ffindir sy’n berchen ar y llong, ond nid oes sicrwydd eto a oes cysylltiad gwirioneddol rhwng hyn a’r môrladrad.

Roedd y llestr 4,000 o dunelli i fod i gyrraedd Bajaia yng ngogledd Algeria gyda’i gargo o werth tua £1 miliwn o goed ar Awst 4, ond nid oes unrhyw wybodaeth am leoliad y llong wedi bod ers y cofnod swyddogol diwethaf ohoni gerllaw gogledd Ffrainc ar 30 Gorffennaf.

Y cysylltiad radio diwethaf i’r llong ei wneud oedd gyda gwylwyr y glannau Dover pan oedd ar fin hwylio trwy gulfor Dover o Fôr y Gogledd am 1.52pm ar 28 Gorffennaf.