Mae’r Prif Weinidog Gordon Brown yn dal i ymosod ar David Cameron a’i blaid gan eu cyhuddo o fod yn ‘ddau-wynebog’ ynghylch dyfodol y Gwasanaeth Iechyd.

Yn dilyn sylwadau beirniadol gan Aelod Seneddol Ewropeaidd Torïaidd am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae’r Llywodraeth yn honni mai dyma yw gwir agwedd yr wrthblaid.

Mae’r Arglwydd Mandelson hefyd wedi camu i mewn i’r ffrae gan gyhuddo Mr Cameron o fod yn ‘dwyllwr’ sy’n dweud un peth yn gyhoeddus a rhywbeth arall yn breifat.

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr wedi bod mewn dŵr poeth ers i’r ASE Daniel Hannan fynd ar raglen deledu yn yr Unol Daleithiau i rybuddio yn erbyn copïo cyfundrefn iechyd Prydain.

Er i Mr Cameron geisio diystyru’r sylwadau fel rhai ‘escentrig’ mae ASE arall o’i blaid wedi cefnogi sylwadau Mr Hannan.

Yr hyn a gychwynnodd y ffrae yw ymgais Barack Obama i ddiwygio gofal iechyd yn America – cynlluniau sy’n cael eu gwrthwynebu’n chwyrn gan lawer o’r Blaid Weriniaethol, sy’n gweld y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym Mhrydain fel rhywbeth biwrocrataidd, gwastraffus ac aneffeithlon.

Gyda dyfodol y gwasanaeth iechyd yn debyg o fod yn un o brif bynciau’r etholiad, problem arall i’r Ceidwadwyr yw cysylltiadau agos rhai o aelodau cabinet yr wrthblaid â gwleidyddion gweriniaethol yn yr Unol Daleithiau.

Mae George Osborne, William Hague, Liam Fox, Chris Grayling a Michael Gove yn rhan o’r grŵp ‘Atlantic Bridge’ sy’n hyrwyddo’r berthynas arbennig rhwng Prydain ac America. Ymhlith aelodau’r grŵp ar ochr draw’r Iwerydd mae gweriniaethwyr sydd wedi mynegi gwrthwynebiad chwyrn i’r egwyddor o wasanaeth iechyd gwladol.

Llun: Yr ASE Daniel Hannan, y mae ei sylwadau wedi achosi cymaint o ffrae. (Dominic Lipinski/PA Wire)