Rhoddwyd rhybudd i berchnogion anifeiliaid anwes yn ardal Caerdydd i gadw llygad am aderyn anferth sydd wedi ei weld yno.

Cafodd cymdeithas warchod anifeiliaid yr RSPCA eu galw ar ôl i’r dylluan eryraidd gael ei gweld yn ardal Pontcanna, ac wedyn o amgylch Treganna hefyd.

Gyda lled adenydd o fwy na phum troedfedd, mae’r dylluan yn ddigon mawr i fwyta ceirw bychain a’r gred yw ei bod wedi dianc o ganolfan yn rhywle.

Doedd gan lefarydd ar ran yr RSPCA ddim disgrifiad manwl o’r aderyn. “Does dim angen ei ddisgrifio,” meddai Gethin Russell-Jones wrth bapur lleol y South Wales Echo.

“Os bydd rhywun wedi ei weld, fe fyddan nhw’n gwybod yn iawn – yr aderyn mwya’ y maen nhw erioed wedi’i weld.”

Y dylluan anferth

Mae’r dylluan eryraidd – neu’r dylluan fawr – yn byw tros rannau helaeth o Ewrop, ond nid yng ngwledydd Prydain.

Mae’n hela yn y nos, fel arfer, gyda’i llygaid mawr yn ei helpu i weld mewn golau gwan. Mae’n bosib clywed ei thw-whit tros gymaint â dwy filltir a hanner.

Mae’n lladdwr effeithiol ac yn anodd iawn ei gweld mewn coed ac ar greigiau.