Cafodd merch 11 oed ddihangfa wyrthiol ddoe pan blymiodd car tua 200 troedfedd tros glogwyn i’r môr.

Roedd hi yn y car yn gwrando ar gerddoriaeth mewn maes pebyll ym Menllech, Môn, pan drawodd y brêc llaw trwy gamgymeriad.

Wrth i’r car dreiglo tua’r dibyn fe aeth ar draws nifer o bebyll, cyn i’r ferch o Fae Cinmel ger Abergele neidio allan ar y funud ola’.

Fe ddisgynnodd y car i’r creigiau islaw a chael ei guddio gan y tonnau.

Yn ôl Dave Massey, paramedic a gwirfoddolwr gyda badau achub yr RNLI, roedd hi’n “wyrth” ei bod wedi dianc ac wedi bod yn ddigon effro i neidio. Fel arall, meddai, byddai wedi marw’n sicr.

Fe gafodd y ferch ei thrin yn Ysbyty Gwynedd am fân anafiadau ac, yn ôl llefarydd, roedd wedi “dychryn yn ofnadwy”.

Fe aeth y gwasanaethau achub i chwilio’r car er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd neb arall ynddo ar y pryd. Doedd neb chwaith yn y pebyll a ddifrodwyd.

Llun: Traeth Benllech