Milwr o’r Gatrawd Frenhinol Gymreig oedd y 200fed milwr Prydeinig i gael ei ladd yn Afghanistan.
O fewn oriau, roedd y cyfanswm wedi codi i 201 gyda marwolaeth milwr o Gatrawd Frenhinol y Ffiwsiliwyr.
Roedd y ddau wedi’u lladd gan ffrwydradau wrth batrolio ar droed – roedd y milwr o’r gatrawd Gymreig wedi ei anafu ddydd Iau a bu farw’n ddiweddarach yng nghanolfan Selly Oak yn y Midlands.
Fe bwysleisiodd y fyddin y byddai’r ddau filwr yn cael eu claddu a’u cofio yn yr un ffordd â’r 199 arall sydd wedi marw yn yr ymladd ers 2001.
Gordon Brown yn ymateb
Roedd gan y Prif Weinidog, Gordon Brown, neges gadarn wrth iddo fynegi ei dristwch am y marwolaethau.
Llun: Y 50 wyneb a gododd gyfanswm y meirw i 200 (Gwifren PA)