Mae Abertawe ar waelod tabl y Bencampwriaeth heno, ar ôl colli 0-3 i Middlesborough yn y Stadiwm Liberty.
Abertawe yw’r unig glwb yn y gynghrair sydd heb ennill yr un pwynt allan o’u dwy gêm gyntaf o’r tymor.
Dywedodd rheolwr yr Elyrch, Paulo Sousa bod rhaid i’w chwaraewyr gymryd eu cyfleoedd neu bydd timau o safon Middleborough yn eu cosbi.
Fe wnaeth Middlesborough reoli’r gêm gydag Adam Johnson yn sgorio’r gôl agoriadol yn yr hanner cyntaf.
Ychwanegodd Marvin Emnes a Tuncay goliau yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol.
Fe wnaeth nifer o gefnogwyr Abertawe ddangos eu hanfodlonrwydd â’r perfformiad gan dyrru allan o’r stadiwm ar ôl y drydedd gôl wedi 81 munud.