Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi beirniadu ei dîm am beidio gweithio’n ddigon caled yn ystod y gêm gyfartal yn erbyn Blackpool yn Bloomfield Road y prynhawn ‘ma.

Fe wnaeth yr ymosodwr Michael Chopra roi Caerdydd ar y blaen wedi 12 munud o’r hanner cyntaf.

Ond sgoriodd Ian Evatt ychydig cyn hanner amser i unioni’r sgôr i’r tîm cartref.

Fe gafodd y ddau dîm gyfleoedd yn yr ail hanner i ennill y gêm- gyda chapten Caerdydd, Mark Hudson yn methu cyfle o dair llath.

“Ni wnaeth y chwaraewyr blaen weithio’n ddigon caled i gael meddiant o’r bêl”, meddai Dave Jones, gan ychwanegu:

“Dylen ni wedi sgorio mwy o goliau yn yr hanner cyntaf- ond mae Blackpool yn le anodd i chwarae ac rydym wedi cael pwynt”.

Yn ogystal â’r perfformiad, bydd Dave Jones yn poeni am ffitrwydd rhai o’i chwaraewyr ar ôl i Ross McCormack, Paul Quinn a Stephen McPhail orfod gadael y cae yn ystod y gêm gydag anafiadau.