Mae rheolwr Clwb Pêl Droed Y Bala wedi croesawu dechrau perffaith i’w tymor cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth yn erbyn Bangor o 2-1 o flaen tua 1,000 o bobl ar Faes Tegid neithiwr.

“Er i ni gael paratoadau da iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf, roeddwn yn dal i boeni cyn y gêm,” meddai rheolwr Y Bala Colin Caton wrth Golwg 360.

“Mi ddywedais wrth y bois cyn y gêm i wneud ymdrech fawr, i gadw’r gêm i fynd ac i barhau i roi pwysau ar y gwrthwynebwyr, fel yr oedden nhw wedi gwneud yn y gêmau cyfeillgar cynt.

“Roedd saith chwaraewr newydd yn dechrau’r gêm neithiwr ac roedd yna bryder nad oeddden nhw wedi cael digon o amser i chwarae gyda’i gilydd”

‘Awyrgylch gwych’

Dywedodd y rheolwr bod yr awyrgylch a greodd y cefnogwyr yn wych, a bod hyn wedi bod yn hwb mawr i’r chwaraewyr.

Fe wnaeth Y Bala ddechrau’n dda, ac wedi 20 munud fe sgoriodd Ricky Evans o gic o’r smotyn i’w rhoi nhw un gôl ar y blaen.

Ond wedi tair munud o’r ail hanner roedd Bangor wedi unioni’r sgôr, gyda Ashley Scott yn sgorio o gic arall o’r smotyn.

‘Ymateb da’

“Roedd cic gosb Bangor yn un ddadleuol. Roedd yna lawer o wthio yn y cwrt cosbi, ond doedd yna ddim trosedd glir”, meddai Caton.

Fe wnaeth Y Bala ymateb yn dda i gôl Bangor, ac roedd y tîm cartref ‘nôl ar y blaen bum munud yn ddiweddarach.

Fe bwysodd Bangor am ail gôl, yn enwedig yn y deg munud olaf, ond fe wnaeth amddiffyn Y Bala sefyll yn gadarn.

Haeddiannol

“Rwy’n credu mai ni oedd y tîm gorau. Ni wnaeth creu y cyfloed gorau ac, er i ni orfod gwrthsefyll pwysau gan Fangor yn hwyr yn y gêm, roedd y fuddugoliaeth yn un haeddiannol”, nododd Colin Caton.

“Roedd Osian Jones a Danny Jellicoe wedi chwarae’n ardderchog. Y peth pwysig i ni nawr yw cadw’r brwdfrydedd a’r gwaith caled i fynd am weddill y tymor”

“Mae’n ddigon hawdd codi ein gêm yn erbyn Bangor, ond bydd angen ei gynnal trwy gydol y tymor”