Mae Americanwr a gafodd ei garcharu am ymweld â chartref Aung San Suu Kyei, arweinydd yr wrthblaid yn Burma wedi cael ei ryddhau heddiw.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau gan un o seneddwyr yr Unol Daleithiaue, Jim Webb, ar ôl ymweliad deuddydd â Burma.

Cafodd John Yettaw ei ddedfrydu ddydd Mawrth i saith mlynedd yn y carchar am nofio’n gyfrinachol i gartref Aung San Suu Kyi.

Yn ystod ei ymweliad, cafodd Jim Webb gyfarfod Aung San Suu Kyi – mae hi wedi cael ei dedfrydu i ddeunaw mis o gaethiwed yn ei chartre’ ar honiad ei bod wedi torri rheolau dedfryd flaenorol trwy roi lloches i John Yettaw.

Llun: Jim Webb ac Aung San Suu Kyi