Mae angen rhoi ffafriaeth i gynghorwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yng Nghymru a hynny er mwyn creu cynrychiolaeth fwy cytbwys o gymdeithas yn ei chyfanrwydd, yn ôl panel a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Daw’r argymhellion hyn oherwydd pryder fod diffyg pobol o leiafrifoedd ethnig a diffyg menywod mewn cynghorau yng Nghymru.

Un o argymhellion y panel yw y dylai cynghorau fonitro cydraddoldeb ymgeiswyr sy’n ceisio mewn etholiadau.

Dywedodd Dr Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a’r Rhanbarthau wrth y BBC fod creu “democratiaeth iach yn dasg hanfodol yng Nghymru”.

Ychwanegodd fod eisiau gwneud “popeth o fewn ein gallu i annog pobol o amrywiaeth eang o gefndiroedd i ystyried bod yn gynghorwyr yng Nghymru”