Mae Llywodraeth Prydain wedi condemnio ymosodiad bom car a ddigwyddodd ger ei llysgenhadaeth yn Kabul heddiw.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn “condemnio’r ymosodiadau hyn” yn ogystal â gweithredoedd “treisgar eithafwyr sy’n ceisio anesmwytho pobl Afghanistan” cyn yr etholiadau ddydd Iau.
Maen nhw’n honni mai ymdrech yw hon i geisio atal trigolion Afghanistan rhag mwynhau democratiaeth.
Dim anafiadau ymhlith staff Prydeinig
Doedd neb o staff y Llywodraeth wedi eu hanafu yn yr ymosodiad y tu allan i bencadlys NATO.
Cafodd pedwar eu lladd a 91 eu hanafu yn y ffrwydrad heddiw. Trigolion lleol oedd y rhain yn ôl pobl golwg.
Mae’r Taliban eisoes wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad.