Mae mudiad Hams ym Mhalesteina yn honni bod eu swyddogion diogelwch wedi lladd arweinydd grŵp sy’n cefnogi Al Qaida, a hynny mewn brwydr a hawliodd fywydau 22 o bobol.

Dechreuodd y brwydro ddydd Gwener ar ôl i grŵp Hamas amgylchynu mosg yn nhref ddeheuol Rafah ar y ffin â’r Aifft.

Roedd tua 100 aelod o’r grwp Jund Ansar Allah neu ‘Milwyr Trugaredd Duw’ yn rhan o’r ymladd ar ôl iddyn nhw hawlio mai tiriogaeth Islam oedd yr ardal.

Yn ôl Ihab Ghussein, Gweinidog Mewnol a llefarydd ar ran Hamas, cafodd yr arweinydd, Abdel-Latif Moussa, ei ladd mewn brwydr a ail-ddechreuodd wedi’r wawr heddiw.

Dyw hi ddim yn glir a gafodd Abdel-Latif Moussa ei ladd gan fwledi Hamas neu gan felt ffrwydron oedd ganddo.

22 yn marw

Mae Dr Moaiya Hassanain o Weinyddiaeth Iechyd Palesteina yn Gaza wedi cadarnhau fod 22 wedi’u lladd, gan gynnwys 6 swyddog o heddlu Hamas a merch 11 blwydd oed. Cafodd 150 eu hanafu.