Mae’r ŵyl lenyddol fwyaf o’i math yn y byd wedi agor ei drysau yng Nghaeredin heddiw gyda thros draean o’i sioeau wedi gwerthu’n llwyr.

Mae o leiaf 250 o 700 digwyddiad yng Ngŵyl Lyfrau Rhyngwladol Caeredin wedi gwerthu allan.

Fe fydd 750 o awduron, gwleidyddion ac artistiaid o 45 o wahanol wledydd yn cymryd rhan y flwyddyn hon.

Un o’r prif ddigwyddiadau fydd lansio nofel newydd yr awdures o Ganada, Margaret Atwood.

Hefyd, bydd amryw o awduron Prydeinig yn cymryd rhan yng ngŵyl y flwyddyn hon yn cynnwys William Boyd, Ian Rankin, Irvine Welsh a Alexander McCall.