Mae £1miliwn o wobr yn cael ei chynnig am unrhyw wybodaeth sylweddol a allai arwain i ddal y ‘lladron smart’ a lwyddodd i ddwyn gwerth £40 miliwn o emau o siop yn Llundain.

Yn ôl yr Heddlu, dyma’r wobr fwyaf yn hanes Prydain am drosedd o’r fath ac mae wedi ei hynnig gan gwmni yswiriant.

Mae Heddlu Scotland Yard eisoes wedi datgan fod y ddau leidr yn beryglus iawn – roedd ganddyn nhw ddau ddryll ac roedden nhw wedi tanio bwledi i’r llawr wrth gyrraedd y siop ac i’r awyr wrth adael. Roedden nhw hefyd wedi clonio platiau rhif ceir i dwyllo pobl.

Mae’r Heddlu’n parhau i gynnal ymchwiliadau i mewn i’r achos ac yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Yn y cyfamser, mae’r Heddlu wedi arestio a holi dyn 50 oed ynglŷn â’r achos.