Daeth yn glir bod awyren a oedd ar ei ffordd i Gaerdydd wedi gorfod glanio ar frys ar ôl i’r ffenest flaen gael ei thorri.

Roedd yr awyren a oedd yn hedfan i Brydain o Bodrum yn Nhwrci wedi gorfod cael ei hanfon i Istanbul, ddydd Sul diwetha’.

Fe fu’n rhaid i’r teithwyr aros am ddeg awr ac mae cwmni teithiau Gwyliau Goldtrail wedi datgan wedi ymchwiliad i’r achos nad oedd y crac ym mhanel allanol y ffenestr yn nam “strwythurol” ac felly nad oedd yn achos pryder tros ddiogelwch sylfaenol

“Mesur rhag ofn”

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau mai mesur rhag ofn oedd glanio’r awyren yn Istanbul i gynnal lefel derbyniol o ddiogelwch i’r teithwyr.

Pwysleisiodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod wedi darparu arlwy ysgafn a diod i’w cwsmeriaid yn ystod yr oedi.