Mae llys hanesyddol ym Melffast wedi cael ei ddifrodi mewn tân neithiwr ac mae’r gwasanaethau brys yn credu ei fod wedi ei gynnau’n fwriadol.

Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, mae adeilad cofrestredig llys Ffordd Crumlin wedi cael ei ddifrodi’n sylweddol, gyda rhan helaeth o’r to yng nghanol yr adeilad wedi cael ei losgi’n llwyr. Fe fu diffoddwyr yn ymladd y fflamau am saith awr.

Dyma’r ail dro i’r adeilad gael ei dargedu – ym mis Mawrth, fe wnaed difrod i tua 40% o’r adeilad.

Er ei fod wedi peidio â bod yn llys ers 1998 a bod datblygwyr wedi ei brynu, roedd yn enwog yn ei ddydd am gynnal sawl achos terfysgaeth.