Mae’r eryr euraid gwyllt hynaf oedd wedi ei gofnodi yng ngwledydd Prydain wedi marw yn yr Alban.
Roedd yr aderyn yn 22 blwydd oed a chafodd yr ei ddarganfod yn farw ar ynys Jura – yn ôl cymdeithas adar yr RSPB yn yr Alban, fe fu farw o henaint.
Aelod o’r cyhoedd a ddaeth o hyd i’r corff a dweud wrth y gymdeithas – roedd wedi ei gofnodi pan oedd yn gyw yn 1987.
“Mae mor braf clywed am aderyn sydd wedi cael bywyd mor hir â hynny yn gwbl naturiol” meddai Roger Broad, y dyn a wnaeth y cofrestru bryd hynny.
Yn ôl swyddogion y gymdeithas, roedd yr eryr yn un o bâr ar yr ynys a’r gobaith yw y bydd yr iâr yn dod o hyd i gymar arall.