Mae pedwar wedi marw heddiw ar ôl i fom car ffrwydro ym mhrif ddinas Afghanistan, meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cafodd 91 eu hanafu hefyd yn y digwyddiad ger gatiau pencadlys NATO, y corff milwrol rhyngwladol sy’n trefnu ymgyrch lluoedd y Gorllewin.

Fe hawliodd gwrthryfelwyr y Taliban gyfrifoldeb am y ffrwydrad a’r hyn fydd yn pryderu’r awdurdodau yw bod y bomwyr wedi treiddio trwy amddiffynfeydd cryf, a hynny bum niwrnod cyn etholiadau yn y wlad.

“Bygythiad”

Roedd swyddogion y gwahanol wledydd eisoes yn disgwyl ymosodiadau’r wythnos hon. Mae llawer o’u gweithwyr rhyngwladol wedi cael cyngor i weithio gartref neu adael y wlad.

Dyma’r ymosodiad cyntaf yn Kabul ei hun ers mis Chwefror pan ymosododd wyth aelod o’r Taliban ar dri o adeiladau’r llywodraeth. Bryd hynny, cafodd 20 eu lladd yn yr ymosodiad, gan gynnwys yr wyth ymosodwr.

Llun (AP Photo)