Fe gafodd merch 14 oed ei lladd ac un arall ei hanafu mewn damwain yng nghanol Abertawe neithiwr.

Fe fu’r ddwy mewn gwrthdrawiad gyda char Toyota Yaris arian yn ardal Fabian Way – fe gafodd un ei lladd yn y fan a’r lle; mae’r llall yn diodde’ o fân anafiadau ac wedi cael gadael yr ysbyty.

Doedd gyrrwr y car, gwraig leol 28 oed, ddim wedi brifo yn y ddamwain a ddigwyddodd tua deg y nos. Merched lleol o ogledd y ddinas oedd y ddwy gerddwraig hefyd.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion a oedd wedi gweld y ddwy ferch neu’r car cyn y ddamwain.

Llun: Rhan o Fabian Wayn (Cyngor Dinas Abertawe)