Mae’r dyn a gafwyd yn euog o lofruddio 270 o bobol yn nhrychineb Lockerbie wedi gofyn am gael gollwng ei ail apêl yn erbyn y dyfarniad.
Mae hynny’n creu’r cyfle iddo gael ei symud o garchar yn yr Alban i garchar yn ei famwlad, Libya.
Does dim modd trosglwyddo carcharor rhwng y Deyrnas Gyfunol a Libya, os oes materion cyfreithiol heb eu gorffen.
Mae’r cais i ollwng ei apêl – er ei fod yn dal i fynnu ei fod yn ddieuog – wedi cryfhau’r amheuaeth fod Llywodraeth yr Alban wedi rhoi pwysau ar Abdelbaset Ali Mohmned Al Megrahi i wneud hynny.
Mae honiadau fod y Llywodraeth am osgoi cwestiynau pellach ynglŷn â thrychineb Lockerbie, ac efallai eisiau osgoi gwneud penderfyniad dadleuol am ryddhau Abdelbaset Ali Mohmned Al Megrahi am resymau tosturiol – mae’n dioddef o ganser y prostad.
Mae Llywodraeth yr Alban yn gwadu’r honiadau ac yn parhau i ddweud nad oes penderfyniad wedi ei wneud eto i ryddhau Al Megrahi neu ei drosglwyddo i Libya.