Mae ail aelod Torïaidd o senedd Ewrop wedi beirniadu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan orfodi’r blaid i amddiffyn ei safbwynt ato.

Roedd arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, eisoes wedi bod yn amddiffyn ei blaid ar ôl sylwadau a wnaed gan yr ASE Daniel Hannan ar raglen deledu yn yr Unol Daleithiau.

Roedd wedi dweud fod y Gwasanaeth Iechyd yn “faich,” ac na’ fyddai yn dymuno i unrhyw un orfod ei ddefnyddio.

Roedd David Cameron wedi wfftio’r sylwadau gan alw Daniel Hannan yn “ecsentrig” ond neithiwr, fe fu Ceidwadwr arall yn Senedd Ewrop yn ymosod ar y Gwasanaeth.

Wrth siarad ar raglen PM, BBC Radio 4, dywedodd Roger Helmer fod “pawb yn caru’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” ond ei fod yn credu fod “pawb yn gwybod yn eu calonnau” nad yw bellach yn destun eiddigedd i weddill y byd.

“Petai’r Americaniaid yn dod ata’ i a dweud a fyddech chi’n ein cynghori ni i ddatblygu system fel Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prydain? Dwi’n credu y byddai’n rhaid i fi ddweud ‘Na’,” meddai Roger Helmer.

Mae Llafur eisoes wedi dweud fod sylwadau Daniel Hannan yn dangos fod gwrthwynebiad “dwfn” o fewn plaid y Ceidwadwyr tuag at y Gwasanaeth Iechyd. Ond mae David Cameron wedi dweud ei fod yn hollol ymroddedig i’r gwasanaeth.

Y ddadl yn yr Unol Daleithiau

Daw sylwadau’r ddau seneddwr ar ôl i rai Americaniaid ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan ei ddisgrifio yn “anfad ac Orwellaidd”. Maen nhw ymhlith y Gweriniaethwyr sy’n ymgyrchu yn erbyn cynllun Barack Obama i sefydlu gwasanaeth iechyd am ddim i bawb.

Mae gelynion yr Arlywydd wedi dweud bod ei newidiadau yn “sosialaeth”, gair brwnt yn UDA, ond mae’r Tŷ Gwyn wedi cyhuddo newyddiadurwyr a gweriniaethwyr o daenu celwydd am y cynllun.

Fe gafodd y gwyddonydd Stephen Hawking ei lusgo i mewn i’r ddadl, ar ôl i bapur newydd yn America ddweud na fyddai wedi cael “siawns o dan y gwasanaeth iechyd cyhoeddus”, gan y byddai hwnnw wedi dweud bod ei fywyd yn “ddi-werth”.

Ateb Stephen Hawking oedd ei fod yn byw yng ngwledydd Prydain ac na fyddai yma heddiw “oni bai am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.