Mae S4C wedi cadarnhau mai Saesneg fydd iaith gynta’ rhai darllediadau dwyieithog ar ei sianel ddigidol.

Mae’r sianel yn dechrau cynnig gwasanaeth dwyieithog ar rai darllediadau chwaraeon digidol, ond bydd rhaid dewis opsiwn i gael yr iaith Gymraeg.

Yn ôl llefarydd ar ran S4C, “rhesymau technegol” yn ymwneud â’r dechnoleg ddigidol sy’n gyfrifol am hyn.

Mae S4C yn tanlinellu mai dim ond unwaith y bydd rhaid gwneud y newid i dderbyn sylwebaeth Gymraeg ar gyfer gemau yn y dyfodol hefyd.