Mae gwraig o’r De wedi cael gorchymyn i dalu £420 o ddirwy am beidio â chlirio baw ei chi oddi ar y stryd.

Yn wreiddiol, roedd y wraig wedi cael dirwy o £75 am beidio â chlirio ar ôl ei chi yn Heol Pontygwindy, yng Nghaerffili ond, ar ôl iddi fethu â thalu’r gost, aeth Cyngor Caerffili â hi i’r llys.

Clywodd Llys Ynadon Abertyleri ei hachos heb iddi hi fod yno – fe gynyddwyd ei dirwy i £250, yn o gystal â gorchymyn iddi dalu costau o £85, a thâl ychwanegol i’r awdurdod lleol – £85 arall.

Mae Cyngor Caerffili yn gobeithio y bydd y ddirwy drom yma yn rhybudd i berchnogion cŵn eraill.