Fe ddylai pobol ifanc gael gwersi er mwyn medru rheoli ac osgoi anhwylderau bwyta yn ôl yr AC Bethan Jenkins.

Mae wedi galw ar Jane Hutt, Y Gweinidog Addysg, i gynnwys y gwersi yng nghwricwlwm cenedlaethol plant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Daw hyn wrth i’r Aelod Cynulliad ar ran Plaid Cymru bryderu fod plant 11 a 12 blwydd oed – yn arbennig merched – yn cymharu eu hunain gyda delfryd afiach y byd ffasiwn.

“Mae’n bwysig bod plant yn cael eu haddysgu am eu cyrff o oed cynnar a hynny i geisio’u harbed rhag datblygu anhwylderau bwyta,” meddai, gan egluro y byddai’r gwersi yn dilyn patrwm tebyg i addysg iechyd a rhyw.

Yn ôl gwefan ‘Eating Disorders Expert’ mae anhwylderau bwyta’n cynyddu ymhlith yr ifanc gyda’r mwyafrif yn datblygu problemau rhwng 11 a 13 mlwydd oed.