Mae 21 o bobl wedi cael eu harestio yng Nghasnewydd, wedi eu cyhuddo o dorri i mewn i dai a siopau.

Fe lansiwyd Ymgyrch Coniffer gan Heddlu Gwent dair wythnos yn ôl, gyda’r nod o leihau ar nifer yr achosion o fwrglera yng Nghasnewydd.

Er bod y cyfanswm wedi lleihau 9% yn yr ardal ers 2007, roedd achosion yn nwyrain y ddinas wedi cynyddu eto yn ystod y misoedd diwetha’.

Ers hynny mae 21 dyn rhwng 13 a 20 o ardal Casnewydd wedi cael eu harestio ac 14 ohonyn nhw wedi cael eu cyhuddo o droseddau penodol o ddwyn gemwaith, gliniaduron ac offer trydanol.

Yr ymgyrch yn parhau

Ers lansio’r ymgyrch ddiwedd mis Gorffennaf, mae’r nifer o fyrgleriaethau bob wythnos wedi disgyn o 46 i 27 yr wythnos ddiwetha’ – gostyngiad o 41%.

Dywedodd yr Heddlu eu bod nhw’n disgwyl i’r ffigwr ostwng ymhellach dros yr wythnosau nesa’.

“Rwy’n hyderus fod y rhai sy’n gyfrifol am fwyafrif y byrgleriaethau yng Nghasnewydd dros yr wythnosau diwethaf wedi eu hatal,” meddai Chris Watts o’r Heddlu.

Mae Ymgyrch Coniffer yn parhau a Heddlu’n apelio ar unrhyw un sy’n gweld neu’n profi unrhyw beth amheus i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 neu’n ddienw ar Taclo’r Tacle – 0800555 111.