Mae heddlu a rheolwyr Stadiwm Liberty yn dal i anghytuno ynglŷn â chostau plismona gêmau yn y stadiwm.

Er gwaetha’r ffaith bod y tymor newydd wedi dechrau, a misoedd o drafodaethau eisoes wedi bod, dyw’r heddlu a’r clwb ddim wedu taro bargen.

Mae disgwyl i dorf fawr fod yn y stadiwm yfory, ar gyfer gêm gartref gyntaf Abertawe y tymor hwn yn erbyn Middlesborough.

Un o’r materion sydd heb eu penderfynu yw pa mor bell o amgylch cyffiniau’r stadiwm y dylai’r heddlu blismona.

Trefnwyr i dalu

Ym mis Chwefror cyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod yn bwriadu mabwysiadu canllawiau cenedlaetholar gyfer plismona digwyddiadau cyhoeddus, gyda’r rhan fwya’ o’r costau’n cael eu talu gan gan y trefnwyr.

Yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, fe fyddai’r trefniant yn “sicrhau nad yw’r cyhoedd yn gorfod ysgwyddo’r y baich o dalu costau a ddylai gael eu talu gan drefnwyr y digwyddiad”.