Fe fydd yna ddau athletwr o Gymru yn cystadlu dros Brydain y penwythnos nesaf ym Mhencampwriaeth Athletau’r Byd yn Berlin.

Mae David Greene o Abertawe a Rhys Williams o Gaerdydd yn cystadlu yn yr un gystadleuaeth, sef y ras 400m dros y clwydi.

Dyma’r unig gynrychiolaeth sydd gan Gymru yn y bencampwriaeth, gyda Christian Malcolm heb ei ddewis i’r tîm y tro yma.

Fe gafodd y Cymro Cymraeg Rhys Williams, mab cyn-asgellwr rygbi Cymru J.J. Williams, ei ddewis er nad oedd wedi cyrraedd y safon o ran amser eto eleni.

Bydd rownd gyntaf y gystadleuaeth yn cychwyn am 8.20pm nos yfory yn Stadiwm Olympaidd Berlin.