Mae Clwb Pêl Droed Y Bala yn edrych ymlaen at chwarae eu gêm gyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru heno – ond yn nerfus hefyd.

“Dw i’n edrych ymlaen i’r tymor ddechrau, ond rydw i hefyd ychydig yn ofnus!” meddai rheolwr Y Bala, Colin Caton, wrth fynd â nhw i’r adran ucha’ am y tro cynta’ erioed.

Roedd yna awyrgylch cyffrous yn y dref cyn gêm gynta’r tymor, meddai, gyda ‘r Bala yn croesawu enillwyr Cwpan Cymru, clwb Dinas Bangor i Faes Tegid.

Er hynny, os na fyddan nhw’n gwneud yn arbennig o dda, byr fydd eu cyfnod o dan y golau llachar – fe fydd yr Uwch Gynghrair yn cael ei leihau o 18 i 12 tîm ar gyfer tymor 2010/11.

Serch hynny, mae’r Bala wedi cryfhau eu carfan gyda saith chwaraewr newydd gan gynnwys yr amddiffynwr Jay Bell o Accrington Stanley.

Bangor yn anelu’n uchel

Mae rheolwr Bangor, Nev Powell wedi dweud ei fod am i’r clwb gystadlu am le yn nhri uchaf y gynghrair y tymor hwn.

Felly bydd Bangor yn edrych i fanteisio ar ddiffyg profiad eu gwrthwynebwyr i sicrhau dechrau addawol i’r tymor.

Mae’r Seintiau Newydd hefyd yn chwarae heno yn erbyn Prestatyn yn Stadiwm Park Hall.