Mae gwerthiant pob un o brif bapurau safonol Prydain yn dal i gwympo’n gyflym, yn ol ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Biwro Archwilio Cylchrediad.

Fe wnaeth papurau newydd dyddiol werthu 2,416,942 copi ar gyfartaledd bob dydd yn mis Gorffennaf, cwymp o 6.23% ar y flwyddyn flaenorol.

Papur newydd yr Independent sydd wedi dioddef waetha’, gyda’r gwerthiant yn cwympo 19.67% gan fynd o dan 200,000 y dydd i 189,013.

Dyma’r prif bapurau eraill

• Financial Times 397,600, i lawr 6.13%.
• Daily Telegraph 818,937, i lawr 4.54%
• Times 580,483, i lawr 5.15%
• Guardian 328,773, i lawr 2.71%.

Roedd pob un ond un o’r papurau bach wedi colli cylchrediad hefyd – y Mirror wnaeth waetha’ gan golli mwy na 7% o’i werthiant mewn blwyddyn o’i gymharu ag ychydig dros 4% i’r Daily Mail a 0.4% i’r Sun. Yr eithriad oedd y Daily Star – i fyny tros 20%.

Yr un oedd y patrwm ar ddydd Suliau, gyda’r Independent yn colli mwy nag 19%, ond y tro yma, roedd dau eithriad – Daily Star Sunday a’r Sunday Times a gododd fwy na 2.7%.