Mae Heddlu Gogledd Cymru yn galw am lygad dystion ar ôl i dair lori gael eu dwyn ym Maes-glas, yn Sir y Fflint ac ar ôl i un dyn gael ei anafu mewn damwain.
Roedd y cerbydau HGV wedi cael ei gweld gan yr heddlu yn gyrru tuag at y ffin gyda Lloegr yn ystod oriau mân, dydd Iau, 13 Awst.
Wnaeth yr heddlu ddim ceisio eu rhwystro, ond pan aeth un o’r heddweision o Swydd Gaer at un o’r lorïau mewn maes parcio yn Ledsham, sy’n agos at Ellesmere Port, rhedodd y gyrrwr i ffwrdd.
Wrth wneud hynny, fe gafodd ei daro gan un o’r lorïau eraill – mae bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty gydag anafiadau i’w belfis. Mae’n 34 oed ac yn dod o Lerpwl ac mae wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ladrad
Er i un o’r lorïau ddianc o’r maes parcio, mae’r heddlu erbyn hyn wedi darganfod y tri cherbyd yn ardal Ledsham.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i alw am lygaid dystion, yn enwedig unrhyw un a welodd y lorïau rhwng Maes-glas ag Ellesmere Port.
Gall pobol gysylltu efo swyddfa heddlu’r Wyddgrug, yn yr iaith Gymraeg ar y rhif, 0845 607 1001, neu drwy alw Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.
(Llun: Swyddfa heddlu’r Wyddgrug yn Sir y Fflint)