Mae gyrrwr a oedd yn gyfrifol am farwolaeth beiciwraig wedi osgoi carchar yn Llys y Goron Casnewydd heddiw – a hynny ar ôl i berthnasau’r feicwraig apelio am “drugaredd a thosturi”.

Dyna oedd yn nodweddiadol o gymeriad Kate Auchterlonie o Benlan, Caerdydd, meddai ei theulu.

Fe fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar, wrth seiclo ar ffordd yr A469 ar Fynydd Caerffili, ar 17 Chwefror, dridiau ar ôl ei phen-blwydd yn 28 oed.

Roedd y gyrrwr, Howard Owen, 29, yn teithio i’r un cyfeiriad â Kate Auchterlonie, pan yrrodd ei gar Honda Prelude i mewn iddi o’r tu nôl.

Heddiw, cafodd Howard Owen, o Dan yr Ardd, Caerffili, ddedfryd o naw mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd, ar ôl pledio’n euog i yrru diofal.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd, a chael gorchymyn i wneud 150 awr o waith di-dâl.

Roedd Howard Owen wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd yn gwybod pam y methodd weld Kate Auchterlonie – wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Roderick Denyer QC ei “bod hi’n glir” fod Howard Owen yn teimlo “edifeirwch dwfn” a bod hyn wedi cael “effaith ddwys” ar ei fywyd.