Does dim eisiau i bobol boeni am greaduriaid gwenwynig sy’n cael eu gweld yn gynyddol ger glannau de-orllewin Cymru.

Gwyntoedd sy’n gyfrifol am olchi mwy a mwy o chwysigod môr, sy’n cael eu nabod fel Portuguese Men o’War, i’r lan, meddai Peter Richardson o Gymdeithas Cadwraeth y Môr a does yna ddim peryg eu bod yn ymosod ar arfordir Cymru.

Ers diwedd y mis diwetha’, fe gafwyd adroddiadau fod rhai o’r creaduriaid – sy’n debyg i slefrod môr neu jellyfish – wedi cael eu gweld ger Amroth a Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro. Roedd rhai wedi eu golchyi i’r lan.

Cyn hyn, meddai Peter Richardson, dim ond pump o’r creaduriaid yr oedd y gymdeithas wedi eu gweld yng Nghymru tros gyfnod o bedair blynedd.

Pwysig dysgu eu hadnabod

“Does dim eisiau poeni am y peth,” meddai. “Mae’n rhan o realiti byw yma yn yr hinsawdd sydd gyda ni ar hyn o bryd.”

Mae rhai cynghorau wedi rhoi arwyddion i fyny ar lan y môr i rybuddio ymwelwyr o beryglon y creadur sy’n gallu rhoi brathiad cas. Y peth pwysig, meddai Peter Richardson, yw dysgu eu hadnabod.

Mae’n argymell y dylai unrhyw un sy’n cael ei bigo gan y creadur dynnu’r tentaclau o’u croen yn syth ac yna ei olchi gyda dŵr a halen a gosod rhew ar y clwy’ i geisio lleihau’r boen.

“Mae’n arbennig o bwysig yn ystod yr ha’ pan mae ’na blant ysgol o gwmpas eu bod yn nabod yr anifeiliaid hyn ac yn gwybod i beidio â’u cyffwrdd,” meddai.

“Fel balŵn gyda rhubanau”

Mae’r chwysigen môr yn ymddangos fel slefren for ond mewn gwirionedd yn cynnwys pedwar creadur gwahanol sy’n cyd-fyw.

“Maen nhw’n anifeiliaid hardd – yn edrych fel balŵn gyda rhubanau’n dod allan ohonyn nhw,” meddai Peter Richardson.

Siâp y ‘balŵn’ sydd wedi rhoi eu henw iddyn nhw gan eu bod yn edrych fel hen longau rhyfel.