Mae rheolwr Wigan, Roberto Martinez wedi galw’r Cymro, Jason Koumas, yn “ddewin” ar drothwy’r tymor newydd.
Wrth siarad ar raglen Sport Wales y BBC, fe ddywedodd y Sbaenwr bod Koumas yn barod i chwarae rhan fawr Wigan y tymor hwn.
Dywedodd Martinez y byddai’n anodd iawn dod o hyd i chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair sydd â thechneg well na chwaraewr canol cae Cymru.
Fe wnaeth Wigan arwyddo Koumas am £5.3m yn 2007, ond mae’r Cymro wedi cael trafferth i chwarae’n gyson i’r clwb.
Dyma’r ymgais ddiweddara’ gan reolwr i gael y chwaraewr i berfformio i’w botensial, ac yntau wedi siomi’n gyson mewn gwahanol glybiau ac, weithiau, i Gymru hefyd.
Chwaraewr creadigol
Roedd Koumas wedi ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Motenegro nos Fercher.
Ond mae rheolwr Wigan yn credu pe bai Koumas ar ei orau, y byddai yn cael argraff fawr ar yr Uwch Gynghrair a phêl-droed Cymru.
“Mae angen i ni gael y gorau o Jason. Pan mae’n chwarae ar ei orau, mae’r cefnogwyr yn mwynhau ei greadigrwydd,” meddai Martinez.
“Ond rhai i Jason sicrhau ei fod yn mwynhau ei bêl-droed. Mae e’n broffesiynol iawn ac mae’n ymwybodol o beth sydd angen iddo’i wneud.”