Mae dyn yn Texas wedi ei gael yn euog o drefnu ‘clybiau cwffio’ ar gyfer pobol anabl.

Am fwy nag blwyddyn, meddai’r heddlu, fe fu staff ar y shifft nos yn ysgol talaith Corpus Christi yn trefnu brwydrau ymysg y trigolion.

Mae Jesse Salazar, 25, yn un o chwech o gyn weithwyr yr ysgol sydd wedi eu cyhuddo o gam-drin yn yr hyn y mae’r heddlu’n ei ddisgrifio fel “fight club”.

Fe’i cafwyd yn euog gan reithgor o niweidio person anabl yn fwriadol, sy’n drosedd difrifol yn y dalaith.

Sgrechian

Roedd y staff yn mynd ati i orchymyn y trigolion anabl i gwffio gyda’i gilydd ac yn chwarae triciau i’w cynddeiriogi nhw, meddai’r heddlu.

Cafodd bron i 20 fideo o’r brwydrau eu darganfod ym mis Mawrth ar ffôn symudol a gafodd ei roi i’r heddlu.

Roedd un fideo yn dangos person anabl yn rhedeg o amgylch ystafell yn sgrechian mewn ofn wrth i berson arall geisio ei daro.

Dywedodd yr Athro Robert Roberts o adran foeseg Prifysgol Baylor y dalaith wrth bapur newydd y Dallas Morning News bod y gweithwyr wedi eu hyfforddi’n wael ac allan o’u dyfnder wrth ofalu am y bobol anabl.