Fe gafodd tua 500 o bobol Taiwan eu lladd gan lifogydd a thirlithriadau a achoswyd gan y corwynt Morakot, meddai’r Arlywydd Ma Ying-jeou heddiw.

Dywedodd mai Morakot oedd wedi achosi’r difrod mwyaf difrifol o unrhyw storm ar yr ynys o fewn cyfnod o 50 mlynedd.

Roedd yn siarad yn ei gynhadledd ddiogelwch gyntaf ers cael ei ethol 15 mis yn ôl. Mae wedi galw ar swyddogion i roi mwy o adnoddau i’r ymgyrch achub.

Fe greodd y storm mwy nag 80 modfedd (mwy na dau fetr) o law ar yr ynys dros y penwythnos.

Mae 15,400 o bentrefwyr wedi eu hachub ac mae’r gwasanaethau brys yn dal i geisio achub 1,900 o bobol sydd wedi eu hynysu mewn pentrefi anghysbell.