Mae Undeb Rygbi Cymru wedi croesawu penderfyniad pwyllgor y gemau Olympaidd i argymell cynnwys rygbi saith bob ochr yng ngemau 2016.

Dywedodd y prif weithredwr Roger Lewis y byddai’r penderfyniad yn hwb enfawr i rygbi ar draws y byd – er bod angen i’r argymhelliad cael ei gadarnhau mewn cyfarfod llawn ym mis Hydref.

“Mae effaith y Gêmau Olympaidd yn rhyfeddol a bydd cynnwys rygbi yn help mawr i gynnal ein cefnogaeth ac i ysbrydoli timau i gystadlu”, meddai.

“Mae rygbi saith bob ochr yn addas ar gyfer y Gêmau Olympaidd oherwydd mae’n gêm gyflym gyda rheolau syml a fydd yn galluogi cynulleidfa newydd i fwynhau ei gwylio a’i deall yn hawdd.”

Dywedodd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, David Pickering, bod yr argymhelliad yn ddatblygiad cadarnhaol i’r gêm, ac mae’n ffyddiog y byddai tîm Prydeinig yn llwyddiannus iawn.

Gêmau 1924

Dyw rygbi ddim wedi cael ei chynnwys yn y Gêmau Olympaidd ers 1924 ym Mharis. Y tro hwnnw, dim ond tri thîm oedd yn cystadlu am y medalau, sef yr Unol Daleithiau, Ffrainc a Rwmania.

Yr Unol Daleithiau a enillodd y fedal aur, gyda Ffrainc yn cael arian a Rwmania’r fedal efydd.