Fe fydd mwy nag 850 o swyddi’n cael eu colli wrth i weinyddwyr cwmni Allied Carpets orfod cau 142 o’r siopau mawr.

Bydd siopau yng Nghymru yn cau ym Mangor, Caerfyrddin, Llandudno, Llanelli, Merthyr, Casnewydd, Pontypridd, Abertawe a Wrecsam.

Dywedodd y gweinyddwyr eu bod nhw wedi methu â gwerthu’r rhan fwyaf o ganghennau’r cwmni carpedi.

Mae 120 o swyddi’n dal i fod yn y fantol wrth i’r gweinyddwyr, BDO Stoy Hayward, geisio cael gwared â’r 20 cangen sy’n weddill. Maen nhw eisoes wedi gwerthu 55 o’r siopau.

Fe aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr y mis diwethaf, gyda 21,000 o archebion heb eu cwblhau.

Mae’r cwmni wedi dioddef yn sgil dirywiad y farchnad dai, gyda llai o dai newydd yn golygu llai o alw am garpedi newydd.