Mae beddrod brenhinol Pictaidd sydd tua 4,000 oed wedi ei ddarganfod yn yr Alban.

Fe ddaeth cloddwyr archeolegol yn Forteviot, ger Perth, o hyd i weddillion arweinydd o’r Oes Efydd ac o leiaf hanner dwsin o eitemau o’i eiddo.

Ymysg y trysorau yn y beddrod mae yna gyllell o efydd ac aur, dysgl bren a bag lledr.

Forteviot oedd ‘prifddinas’ y Deyrnas Bictaidd yn y 9fed ganrif CC ond, yn ôl yr archeolegwyr, fe allai’r canfyddiad awgrymu ei fod yn gartref i frenhinoedd llawer cynharach na hynny.

“O ran cadwraeth, lleoliad a maint, does dim beddrod i’w gymharu ag o ym Mhrydain,” meddai Dr Gordon Noble wrth bapur newydd yr Independent.