Cafodd merlen Gymreig ei rhoi ar dân mewn ymosodiad “arswydus”, yn ôl y gymdeithas i atal creulondeb i anifeiliaid, yr RSPCA.

Roedd ganddi losgiadau difrifol i’w chefn a dywedodd y RSPCA bod petrol wedi ei thywallt drosti ac wedi’i gynnau.

Dywedodd yr elusen bod yr heddlu yn chwilio am y troseddwyr wedi’r ymosodiad yn Stapleford yn Swydd Nottingham.

Dywedodd y RSPCA bod y ferlen Gymreig bedair oed, Baby Boo, yn ei chae ddydd Sul pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Cafodd yr anifail ei darganfod tua 6.30 gan ei pherchennog wedi torri drwy giât fetel yn ei braw. Fe fydd Baby Boo yn aros gyda’r milfeddyg am bythefnos nes bydd y llosgiadau’n gwella.

“Alla’ i ddim dychmygu pa fath o bobol fyddai’n gwneud hyn, ond yn amlwg mae angen dod o hyd iddyn nhw i’w rhwystro nhw rhag ymosod ar anifeiliaid eraill,” meddai llefarydd ar ran yr RSPCA.