Mae brodorion yn Chile yn dweud y byddan nhw’n dal ati i ymladd am eu tir, er bod un o’u harweinwyr wedi ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp ymgyrchol Ad Mapu y byddai marwolaeth Fabian Facundo Mendoza Collio yn eu hysbrydoli i frwydro’r galetach am diroedd eu cyndadau.

Yn ôl yr heddlu, roedd swyddog wedi saethu Fabian Facundo Mendoza Collio, 24, er mwyn ei amddiffyn ei hun, a bod yr Indiaid yn cario gynnau.

Cafodd wyth o Indiaid a thri swyddog eu hanafu wrth i’r brodorion o lwyth y Mapuche geisio casglu’r corff o’r tu allan i dref Collipulli, tua 370 milltir o’r brifddinas Santiago.

“Difrod i’w hachos eu hunain”

Mae’r frwydr yn parhau er bod Llywodraeth Chile yn honni eu bod yn ceisio helpu’r Mapuche brynu tir a chwmnïau coed er mwyn lleddfu ar eu tlodi.

Ychydig oriau ar ôl i’r ymgyrchydd gael ei ladd cafodd ystordy yn yr ardal ei roi ar dân, gan ddinistrio gwerth $1m o offer, meddai’r llywodraeth.

Dywedodd yr arlywydd Michelle Bachelet bod yr ymgyrchwyr yn gwneud difrod i’w hachos eu hunain drwy droi at drais.

“Does dim byd yn cyfiawnhau trais. Rhaid iddyn nhw ddeall mai trafod yw’r unig ateb i hawliau hanesyddol cyfreithlon yr Mapuche.

Goresgyniad

Mae’r rhan fwya’ o’r Mapuche, sy’n 6% o’r 17 miliwn o bobol yn Chile, yn byw mewn tlodi.

Fe wnaethon nhw frwydro yn erbyn goresgyniad y Sbaenwyr am 300 mlynedd cyn i’r Llywodraeth eu gwthio nhw i gymunedau yn ne Chile.