Dyw’r Gweilch ddim yn gwybod pryd fydd Gavin Henson yn ôl yn chwarae rygbi.

Fe gafodd y canolwr anaf i’w bigwrn yn rownd gyn derfynol Cwpan EDF ym mis Mawrth, a dyw e’ ddim wedi chwarae ers hynny.

Roedd y Gweilch yn gobeithio y byddai’n dychwelyd erbyn dechrau’r tymor newydd ond dywedodd Cyfarwyddwr Hyfforddi’r Gweilch, Scott Johnson, nad oedd y tîm meddygol yn gwybod yn union beth oedd y broblem.

“Alla’ i ddim rhoi unrhyw fath o fesur amser ar ei ffitrwydd oherwydd does neb yn gallu rhoi ateb i mi,” meddai. “Rydym yn dal i gydweithio gyda’r tîm meddygol i ddod o hyd i ateb.”