Mae arweinydd yr wrthblaid David Cameron wedi ymuno â’r Prif Weinidog Gordon Brown wrth amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhag ymosodiadau o America.

Mae’r Gwasanaeth wedi ei gondemnio gan Weriniaethwyr sy’n ymgyrchu yn erbyn cynllun yr Arlywydd Barack Obama i sefydlu gwasanaeth iechyd am ddim i bawb yn yr Unol Daleithiau.

Mae gelynion Barack Obama wedi dweud bod ei newidiadau yn “sosialaeth”, gair brwnt yn UDA, a bod y gwasanaeth a sefydlwyd gan y Cymro Aneurin Bevan yn “anfad ac Orwelliaidd”.

Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi derbyn ton o negeseuon cefnogol trwy drydar ar Twitter – mae’r neges #WeLoveTheNHS wedi tyfu’n fwy poblogaidd nag #IranElection erbyn hyn.

Mae Gordon a’i wraig Sarah Brown ymysg miloedd o bobol sydd wedi trydar y neges ar wefan Twitter.

Dywedodd David Cameron bod yr ymgyrch ar-lein yn dangos pa mor falch yw pobol gwledydd Prydain o’r gwasanaeth.


Dadlau mawr

Mae cynllun Barack Obama ar gyfer diwygio’r sustem gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi arwain at ddadlau mawr yn y wlad.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi cyhuddo newyddiadurwyr a gweriniaethwyr o daenu camsyniadau am beth fydd y gwasanaeth iechyd yn ei olygu yn y wlad.

Mae’r gwyddonydd Stephen Hawking wedi ei lusgo i mewn i’r ddadl, ar ôl i bapur newydd yn America ddweud na fyddai wedi cael “siawns o dan y gwasanaeth iechyd cyhoeddus”, gan y byddai hwnnw wedi dweud bod ei fywyd yn “ddi-werth”.i

Ateb Stephen Hawking oedd ei fod yn byw yng ngwledydd Prydain ac na fyddai yma heddiw “oni bai am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.