Bydd benthyciad newydd gan y Llywodraeth yn San Steffan yn helpu i greu a chynnal swyddi yng ngogledd Cymru.

Maen nhw wedi cyhoeddi benthyciad o £340m i brosiect awyrennau A350 Airbus, sydd â ffatri ym Mrychdyn yn Sir y Fflint.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Busnes, yr Arglwydd Mandleson, fanylion y benthyciad wrth ymweld â ffatri arall y cwmni ym Mryste.

Fe allai’r benthyciad greu a chynnal mwy nag 1,200 o swyddi yn y ddwy ffatri.

Mae’r cwmni yn cyflogi 10,500 o bobol.