Mae llysfab Catherine Zeta Jones wedi cael ei garcharu am droseddau cyffuriau yn yr Unol Daleithiau.

Fe gafodd Cameron Douglas, mab yr actor Michael Douglas, ei arestio’r mis diwethaf dros honiadau ei fod wedi delio yn y cyffur methamphetamine (Crystal Meth).

Ar y dechrau, fe gafodd ei gadw’n gaeth yn ei gartref yn Efrog Newydd ond mae’r awdurdodau’n dweud bod ei gariad, Kelly Sott, wedi ceisio smyglo heroin i’w gartref y tu mewn i frwsh dannedd. Mae Kelly Scott wedi ei charcharu hefyd.

Roedd Cameron Douglas eisoes wedi cael ei arestio yn 1999 a 2007 am droseddau cyffuriau.