Mae rheolwr Hull City, Phil Brown, yn dweud ei fod am roi’r gorau i’w ymgais i arwyddo Joe Ledley a Ross McCormack o Gaerdydd.

Mae Caerdydd eisoes wedi gwrthod cynnig o £3m gan Hull City am Ross McCormack ac, yn ôl Brown dyw cadeirydd yr Adar Glas, Peter Ridsdale, ddim wedi dangos unrhyw awydd i drafod trosglwyddo’r ddau chwaraewr.

Er hynny, efallai nad yw’r saga ar ben – mae McCormack eisoes wedi dweud y byddai’n gadael Caerdydd pe bai’n cael cyfle i chwarae yn yr Uwch Gynghrair a dim ond blwyddyn sydd gan Ledley ar ôl ar ei gytundeb. Gallai adael am ddim yr ha’ nesa’.

Arwydd fod Hull wedi blino aros yw’r ffaith eu bod wedi arwyddo’r ymosodwr Kamel Ghilas a’r asgellwr Stephen Hunt ddoe.

Denu diddordeb

Er i Hull City ddweud eu bod yn rhoi’r gorau i’w diddordeb, mae yna glybiau eraill sydd eisiau arwyddo’r ddau.

Mae Stoke City ac Everton wedi dangos diddordeb yn Joe Ledley, ac mae Portmouth eisoes wedi gwneud ymholiadau am Ross McCormack.

Gyda phythefnos arall cyn cau’r ffenest drosglwyddo mae pryder o hyd y gallai Caerdydd golli rhai o’i chwaraewyr gorau i’r Uwch Gynghrair.