Mae mwy na 2,000 o bobl wedi ffoi o’u cartrefi wrth i ddiffoddwyr frwydro tanau gwyllt ar draws Califfornia.

Fe ddechreuodd y tanau ddydd Mercher, ac maen nhw eisoes wedi llosgi tua 2,800 erw yn Swydd Santa Cruz.

Mae tua 1,000 o gartrefi wedi cael eu bygwth gan y tân yng ngogledd y dalaith tua deng milltir i’r gogledd o ddinas Santa Cruz.

Bu rhaid i gymuned gyfan Bonny Doon – tua 2,000 o bobol adael eu cartrefi ddoe. Yn y gymuned gyfagos Swanton mae tua 400 o bobol wedi gorfod dianc.

Ym mis Mehefin 2008, fe wnaeth tân losgi 520 erw o dir a difrodi 11 o adeiladau dair milltir o Bonny Doon.

Does dim adroddiadau o anafiadau hyd yma, a dyw’r awdurdodau ddim wedi dod o hyd achos y tân ond, yn ôl yr adroddiadau diweddara’, fe welwyd fan wen yn y cyffiniau adeg dechrau’r tân.