Merched beichiog, pobol gyda phroblemau iechyd a gweithwyr iechyd a gofal fydd y cynta’ i gael brechiadau rhag ffliw moch.

Fe gyhoeddodd y Llywodraeth yn Llundain restr o’r gwahanol grwpiau fydd yn derbyn y moddion pan fydd brechu’n dechrau o ddifri’ ym mis Hydref.

Ond, er bod ffigurau manwl ar gael ar gyfer gweddill gwledydd Prydain, does yna ddim ystadegau eto am nifer y bobol yng Nghymru fydd yn cael blaenoriaeth.

Dyma’r drefn o ran brechu:

Grŵp 1 – Gweithwyr iechyd a gofal sydd yn cynnig gwasanaethau uniongyrchol; merched beichiog; pobol fregus rhwng 6 mis a 65, gan gynnwys rhai gyda’r fogfa (asthma), clefyd siwgr, clefyd y galon neu’r arennau, ffibrosis systig ac imiwnedd gwan.

Grŵp 2 – Pobol tros 65 sydd yn y grwpiau ‘mewn peryg’ a phobol sy’n byw gyda rhai ag imiwnedd gwan.

Yng ngweddill gwledydd Prydain, yr amcangyfri’ yw y bydd tua 13.3 miliwn o bobol ymhlith y rhai sy’n cael blaenoriaeth.

Dim digon o frechiadau i ddechrau

Mae tua 300,000 dos o’r brechiadau wedi eu cynhyrchu hyd yma a’r disgwyl yw y bydd 54.6 miliwn ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.

Fe ddywedodd Prif Swyddog Meddygol Lloegr, Syr Liam Donaldson, ei fod yn benderfyniad anodd ond bod rhaid gosod blaenoriaethau.

“Rhaid i ni amddiffyn y mwya’ bregus,” meddai, “ a dw i’n credu y bydd pobol yn deall hynny.”